Cylchlythyr Hydref 2023

Neges gan ein Cadeirydd

Yn gyntaf oll, diolch enfawr i’n holl gyfranddalwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi bod mor hael â’u hamser ac wedi buddsoddi eu harian gwerthfawr i achub ein tafarn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.  Mae edrych ar fawredd ein cyflawniad yn syfrdanol.  Bu tipyn o ddatblygiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth inni ymbaratoi i ddod yn berchnogion felly dyma ddiweddariad sydyn ar yr hyn sydd wedi digwydd a’r hyn sydd eto i ddod.

Diolch yn fawr,

Geraint

Arolwg cymunedol

Diolch o galon am eich amser wrth ymateb i’n arolwg cymunedol manwl.  Rydym wedi derbyn mwy na 85 o ymatebion ar draws pob grŵp yn ein cymuned sy’n anhygoel.  Mae’n wych clywed am yr hyn sy’n bwysig i chi.  Hoffwn fod pawb yn teimlo’n wirioneddol gartrefol ac rydym yn bwriadu cyflwyno gymaint o’ch syniadau ag y mae gofod ac arian yn caniatau.

Byddwn yn cynnal arolwg boddhad cymunedol unwaith i’r rhan helaeth o’r gwaith gael ei gwblhau er mwyn gweld a yw’r cydbwysedd yn iawn gennym ni.

Rydym bob amser yn ddiolchgar am adborth defnyddiol a syniadau gwych.  Os oes gennych syniad, gallwch ei ddosbarthu â llaw ym mlwch post du Y Cross CBC ar ochr flaen y dafarn neu cysylltwch â ni drwy’r ddolen Cysylltwch â Ni ar ein gwefan.

Cytundeb arian grant (CAG)

Yn ddiweddar cawsom gyfarfod buddiol iawn gyda’n cydweithwyr o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU (CPG).  Mae’r gwaith papur wedi ei gwblhau a’r disgwyl yw y byddwn yn derbyn yr arian grant sydd wedi ei neilltuo yn ei gyfanrwydd o fewn y bythefnos neu dair wythnos nesaf.  Mae’r hwb anhygoel hwn o £244,250 yn ychwanegiad gwirioneddol arbennig ar ddechrau ein siwrnai.  Mae ein cyfreithiwr yn barod i gyfnewid a chwblhau gwerthiant y dafarn unwaith inni dderbyn grant CPG.  

Am gyffrous!  Mae’n wych gweld ein bod ar fin gwireddu ein hamcanion.  

Mae CPG yn rhoi 50% o’r costau rydym wedi eu hamcangyfrif i ni, oherwydd ein bod wedi gweithio ar y cyd i wneud rhywbeth gwirioneddol arbennig ar gyfer y gymuned ac fe godon yr hanner arall gyda’n gilydd.  

Diolch am eich haelioni ac am y gefnogaeth barhaus.

Adnewyddiad y dafarn a’r hwb

Unwaith ein bod wedi derbyn yr allweddi, ein bwriad yw ail-agor cyn gynted ag y bo modd.  

Yn y cychwyn cyntaf, mae’n rhaid i ni wneud rhai gwelliannau gorfodol ac adnewyddiad cyflym o’r décor.  Yna, ym mis Ionawr, pan fydd y dafarn yn naturiol yn llai prysur, byddwn yn cadw gwasanaeth cyfyngedig i fynd tra ein bod yn cynnal y gweithfeydd mwy, gan anelu i ail-lansio yng Ngwanwyn 2024.

Mae’r cynllun wedi ei amlinellu isod: –

Dyddiadau Prosiect Dros Dro

Cam 1 – Hanfodion a gwaith sylfaenol 

Yn debygol o gymryd tua 3 wythnos, bydd y gwaith hwn yn gyfyngedig i waith iechyd a diogelwch, diogelwch tân a diogelwch trydanol. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn recriwtio, hyfforddi, stocio a phrofi. Tra bod hyn i gyd ar y gweill, byddwn yn adnewyddu rhywfaint o’r addurn fel bod y dafarn yn gynnes ac yn groesawgar i bawb. Yna byddwn yn dechrau ar lunio rhaglen adnewyddu cam 2.

Cam 2 – Gwaith adnewyddu mawr

Er mwyn paratoi’r cynlluniau, rydym wedi sefydlu gweithgor eiddo gyda gwirfoddolwyr gwybodus, gyda chefnogaeth a chyngor gan arbenigwyr y diwydiant lletygarwch ac adeiladu. Unwaith bydd ein cynlluniau amlinellol ar gyfer yr ail gam yn barod, byddwn yn cynnal cyfarfod agored ac yn eich gwahodd i gyd i rannu sylwadau ar eich hoff syniadau a chynnig unrhyw awgrymiadau terfynol.

Paratoi i agor

Yn ogystal â chynllunio’r gwaith corfforol, rydym wedi bod yn brysur yn darganfod cyflenwyr, ac yn trefnu cael y trwyddedau angenrheidiol ar waith.  Mae gennym ystod eang a newydd o winoedd gwych, cwrw a seidr lleol a byddwn yn stocio jin crefft lleol a choffi a chacennau arbennig.  

Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi penodi Shawn Smith yn Rheolwr y Dafarn. Bydd Shawn yn dechrau yn fuan i gael y dafarn yn barod i’w hagor fis nesaf.

Mae Shawn yn byw gyda’i deulu yn Abergwaun ac yn meddu ar brofiad helaeth o reoli cyffredinol yn y diwydiant lletygarwch. Gan ddysgu’r grefft yn uniongyrchol gan ei rieni a fu’n rhedeg yr Harbour Inn yn Solfach am flynyddoedd lawer, mae Shawn yn deall ein hamgylchedd unigryw yn Sir Benfro ac ansawdd ein cynnyrch lleol gwych.  Mae’n ddymunol iawn ac yn groesawgar.  Fel cogydd angerddol, mae’r un mor gyfforddus yn y gegin ag y mae yn ymdrin â chwsmeriaid, gan greu awyrgylch gwych a chroeso cynnes i bawb. Mae wedi ennill nifer o wobrau ac, yn bwysicaf oll i ni, mae ganddo brofiad o redeg tafarn gymunedol.  Mae’n caru’r awyrgylch deuluol unigryw y mae gweithrediad cymunedol yn ei greu ac mae’n edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd yn fuan iawn.

Sut fydd y bwyd?

Mae is-grŵp eisoes yn gweithio ar syniadau cyffrous ar gyfer ein bwydlenni, a byddwn yn treialu rhai ryseitiau i weld beth mae pobl yn ei hoffi orau.  

I ddechrau, byddwn yn cynnig prydau syml sy’n arddangos y gorau o’n cynnyrch lleol ffres. Rydym yn bwriadu hysbysebu’r rhain trwy fwrdd du sy’n newid yn barhaus.  Gellir archebu prydau bwyd naill ai yn y bar neu drwy wasanaeth bwrdd yn y bwyty.  Byddwn yn cynnig dewis o brydiau bwyd poeth bob dydd a byddwn yn cynnal nosweithiau themâu gwych fel pysgod ffres, a nosweithiau stêc.  Byddwn hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod rhai opsiynau bwyd parod ar gael cyn gynted ag y gallwn. Cadwch lygad am Gylchlythyr fis Tachwedd am ragor o fanylion.

Swyddi gwag

Wrth i ni baratoi i symud tuag at wasanaeth, mae swyddi gwag ar gyfer gwaith bar, gweinyddwyr bwyd, a glanhawyr. Mae’r rhain yn rolau rhan-amser a llawn amser gyda rhai yn gofyn am ychydig oriau’r wythnos yn unig.  Edrychwch ar y wefan http://ycrossinn.cymru/job-vacancies/ i gael rhagor o wybodaeth ac os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni. Rydym yn annog pobl leol i wneud cais, gan gynnwys aelodau iau a hŷn o’r gymuned. Mae’r cyflog yn hael yn unol â’r Cyflog Byw Go Iawn. Darperir hyfforddiant ar gyfer pob rôl, felly nid oes angen profiad, dim ond cymeriad positif a chyfeillgar. 

Mae gan y Gymdeithas Budd Cymunedol rôl wag gwirfoddol hefyd sef ysgrifennydd y gymdeithas.  Mae hon yn rôl lywodraethu bwysig yn cynghori’r Bwrdd a’r Pwyllgor, felly os ydych yn nabod rhywun sydd â’r sgiliau angenrheidiol ac sydd â diddordeb, gofynnwch iddynt gysylltu â’n Cadeirydd, Geraint Evans ar rho8lan@gmail.com. Y dyddiad cau yw Hydref 20fed, 2023.                      

Diolch,

Geraint Evans, Mike Hillier, Jon Archer, Jessie Fry, Jayne Evans

Cyfarwyddwyr Y Cross Cas-lai CBC Cyf.